The 27th of January is the day for everyone to remember the six million Jews murdered in the Holocaust, and the millions of people killed under Nazi persecution, and in the genocides which followed in Cambodia, Rwanda, Bosnia, and Darfur. The 27th of January marks the liberation of Auschwitz Birkenau, the largest Nazi death camp.
This year, the theme for Holocaust Memorial Day is the 'fragility of freedom'.
We have developed the following prayer to reflect this theme, and we encourage Christians especially to mark HMD with these words:
A Prayer For Holocaust Memorial Day 2024: The Fragility of Freedom
Eternal God, we come before you, conscious of the fragility of freedom, to remember the victims of the Holocaust.
We lament the loss of the six million Jews who were killed in the Holocaust, the millions of other victims of Nazi persecution, and victims of all genocides.
Remembering the past, help us today to use what freedom we have to stand up for those whose freedom is denied.
We pray for a day when all shall be free to live in peace, unity and love.
Amen.
For a Welsh language version of this prayer, please see below.
Gweddi ar gyfer Dydd Coffáu’r Holocost 2024: Bregusrwydd Rhyddid
27 Ionawr yw’r dydd i bawb gofio am y chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost a’r miliynau o bobl a laddwyd gan ormes y Natsïaid, ynghyd â’r hil-laddiadau a ddigwyddodd wedyn yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae 27 Ionawr yn nodi gwaredigaeth Auschwitz Birkenau, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid.
Eleni, y thema ar gyfer Dydd Coffáu’r Holocost yw ‘bregusrwydd rhyddid.’
Mae‘r Cyngor Cristnogion ac Iddewon wedi ysgrifennu’r weddi isod i adlewyrchu’r thema hon ac felly, gan ddilyn yr arweiniad hwn, mae’r Eglwys yng Nghymru yn annog Cristnogion i nodi Dydd Coffáu’r Holocost drwy arfer y geiriau hyn:
Gweddi ar gyfer Dydd Coffáu’r Holocost 2024: ‘Bregusrwydd Rhyddid.’
Dduw tragwyddol, deuwn ger dy fron, yn ymwybodol bod rhyddid yn beth bregus, er mwyn cofio am bawb a ddioddefodd yn yr Holocost.
Galarwn y golled o’r chwe miliwn o Iddewon a laddwyd yn yr Holocost, y miliynau o bobl eraill a ddioddefodd dan ormes y Natsïaid, ynghyd â phawb sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiadau eraill.
Wrth i ni gofio am y gorffennol, cynorthwya ni heddiw i arfer y rhyddid sydd gennym i amddiffyn y rhai y cymerir eu rhyddid oddi arnynt.
Gweddïwn am ddydd pan fydd pawb yn rhydd i fyw mewn tangnefedd, undod a chariad.
Amen.
For more information, please visit CCJ website HERE.